Mae'n gyffredin i ganolbwyntio ar ddatblygu gallu sillafu geiriau unigol gyda rhai disgyblion.
Efallai y gellir atgyfnerthu hyn drwy ddefnyddio'r geiriau hynny mewn brawddegau sydd wedi eu llunio yn ofalus; y 'Pwmpiwr Brawddeg' yw'r union raglen ar gyfer hyn.
Gwaith y disgybl yw teipio brawddeg sydd yn cael ei harddangos gan y rhaglen, a gellir gosod y dasg fel bod gofyn i'r disgybl "EDRYCH A THEIPIO" neu "EDRYCH, CUDDIO, A THEIPIO", gyda chymorth gan y rhaglen gam wrth gam.
Os yw'r disgybl yn cael anhawster gyda'r dasg, bydd y rhaglen yn cynnig cliw drwy fflachio'r llythrennau priodol.
Gellir defnyddio rhestr ddewisiadau syml fel y gall athrawon guddio llafariaid neu lythrennau eraill yn y frawddeg er mwyn defnyddio dull 'cloze'.
Mae enghreifftiau lu o restrau brawddegau wedi eu cynnwys yn y Pwmpiwr Brawddeg; dilynant y rhestrau fel a nodwyd yn O Gam i Gam.
Gall athrawon (a disgyblion!) ddefnyddio'r golygydd i greu rhestrau brawddegau newydd yn gyflym, ac er mwyn eu defnyddio yn y rhaglen.
* Mae O Gam i Gam yn gynllun dysgu ffonig gam wrth gam ac mae wedi ei gyhoeddi gan Y Ganolfan Astudiaethau Addysg.
Atgynhyrchwyd y rhestrau brawddegau o fewn y feddalwedd gyda chaniatâd Y Ganolfan Astudiaethau Addysg.